top of page

Dod yn Gynghorydd Cymuned
Sut i ddod yn Gynghorydd Cymuned
Os ydych chi'n angerddol am eich cymuned leol, mae angen chi arnom ni. Mae cynghorwyr yn gwneud gwahaniaeth enfawr i ansawdd bywyd pobl leol a sut mae materion lleol yn cael eu trin. Mae angen pobl o bob cefndir a phrofiad sy'n adlewyrchu'r cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu i'w cynnig eu hunain ar gyfer etholiad.
Mae cynghorwyr tref a chymuned yn ddeiliaid swyddi sy'n llofnodi datganiad derbyn swydd wrth gael eu hethol neu eu penodi - felly maent yn rhan o strwythur llywodraeth leol Cymru. Er eu bod yn cyflawni llawer o weithgareddau cymunedol yn wirfoddol, nid ydynt yn wirfoddolwyr.
Os hoffech wneud cais am swydd wag cliciwch ar y ddolen:
bottom of page
